llun Chwarae Plant © keith morris log fran wen
Cwmni'r Frân Wen Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn
phone 01248 715048 | fax 01248 715225 | post@franwen.com

Cwmni'r Frân Wen's Current Projects

Nunlle i Droi / Nobody for Me ...

category: Secondary Schools

Summary
Mae Cara a’i brawd, David, yn ddiarwybod i neb arall, yn gofalu am eu tad sy’n alcoholig. Eu gobaith yw ymddangos yn normal ond mae’r straen emosiynol a chorfforol yn treiddio i bob agwedd o’u bywyd. Mae’r ddrama yn bwrw golwg caled a heriol ar realiti bywyd i ofalwyr ifanc. Yng ngeiriau un gofalwr ifanc: “Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod sut ‘da ni’n teimlo a sut ‘da ni ‘di cael ein hanwybyddu.” Bwriad y prosiect yw edrych ar anghenion pobl ifanc yn gyffredinol i ffynnu’n oedolion iach a chyfrifol.

Cast and crew
Tudur Lloyd Evans, Rhodri Sion, Manon Wyn Williams

Touring
Monday, October 13, 2008 until Friday, December 05, 2008
[more details of the tour here>>>]

Y Crwban Mwya'n y Byd / The World's Greatest Turtle...

category: Special Commission

Summary
Prosiect mewn cydweithrediad â Chyfadran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth ynglyn ag Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau. Mae creaduriaid y môr wedi gwirioni ac yn edrych ymlaen at eu parti blynyddol i groesawu'r Crwban Mwayf yn y Byd. Tydi'r Octopws ddim yn hapus ei byd wrth fwrw ati gyda'r trefniadau, gan nad ydi pawb yn tynnu eu pwysau. beth fydd hanes y parti mawr wedi siwrnai faith y Crwban i Gymru? Ond nid dyma'r gofid pennaf i'r creaduriaid, gan fod y bygythiad mwayf i'w ganfod y tu hwnt i'w byd o dan y don, a hynny yn sgîl patrymau byw pobl y tir mawr.

Cast and crew
Owen Arwyn Carys Gwilym Nerys Lewis

Touring
Monday, May 14, 2007 until Friday, June 29, 2007
[more details of the tour here>>>]