I bobl ifanc. Gyda phobl ifanc. Ein rhaglen newydd!
Dyma gyflwyno ein rhaglen fwyaf cydweithredol erioed!
Rydym yn edrych ymlaen at gofleidio ffyrdd newydd o weithio, cysylltu a chreu amrywiaeth o brosiectau a chynyrchiadau uchelgeisiol a chyfoes.
Gan gyd-weithio ochr yn ochr ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Pontio a rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru!
Boed yn gynhyrchiad neu gwaith mewn datblygiad fel rhan o’n rhaglen newydd ni Frân Wen Sgratsh, dros y 6 mis nesaf byddwn yn tynnu hen glasuron yn gria’, yn rhoi stamp Frân Wen ar sioe gerdd ac arbrofi gyda theatr gig am y tro cyntaf.
Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Chwmni Ifanc Frân Wen mewn ffyrdd hollol newydd, gan eu gosod wrth galon ein rhaglen er mwyn sicrhau’r cyfleon mwyaf cynhwysol a heriol i’n pobl ifanc.
Heb anghofio wrth gwrs am ddatblygiadau Nyth – ein cartref newydd sbon ym Mangor.