Nia Hâf
Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc Frân Wen

Roedd hi’n lygoden fach yn Sbri, chwifiwr megaffon wrth arwain gorymdaith Ar y Stryd ac yn ymgyrchydd crys-t Trumpaidd yn Sbectol Haul.

Mae Nia Hâf wedi bod yn rhan o’n teulu estynedig ers nifer o flynyddoedd – yn aelod o’n prosiectau cyfranogi i bobl ifanc, gwirfoddolwr ac yn artist llawrydd cyflogedig – ond erbyn heddiw Nia yw Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc Frân Wen.