ŴY, CHIPS A NAIN / Ionawr 2018
Stori deuluol a gwirioneddol hyfryd am ddementia drwy lygaid plentyn.

Mae Guto yn caru treulio amser gyda’i Nain. Trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffôr a thylwyth teg yn troi plant yn selsig!
Ona mae’r antur fwyaf eto i ddod…
Wedi ei ysgrifennu gan Gwyneth Glyn, mae Ŵy, Chips a Nain yn ddarlun gonest o bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia.
7 neu 70 oed – dim ots! Dyma sioe i’r teulu oll.
Cynhyrchiad ar y cŷd rhwng Frân Wen a Galeri, Caernarfon gyda chefnogaeth gan Academi Gofal Cymdeithasol Pendine yw Ŵy, Chips a Nain.
ADNODDAU
Pecyn Creadigol Ŵy Chips a Nain
Pecyn Dysgwyr Ŵy Chips a Nain
CROESO I BAWB
Mae Fran Wen yn ymgeisio i greu cynyrchiadau sydd yn hygyrch i bawb.
Mae pob perfformiad o Ŵy Chips a Nain yn hamddenol ac yn addas i bawb.
Rydym wedi dilyn canllawiau West Yorkshire Playhouse er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn Ddementia Gyfeillgar.
Mae’r criw artistig i gyd wedi cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi Ffrind Dementia gan Cymdeithas Alzheimer’s Society er mwyn meithrin ymwybyddiaeth o elfennau ymarferol all beri gofid i aelodau bregus o’r gynulleidfa.
Mae’r camau canlynol wedi eu cymeryd wrth gynhyrchu a chynllunio Ŵy, Chips a Nain er mwyn ei fod yn hygyrch i bawb:
- Ni fydd unrhyw synau/delweddau dychrynllyd neu annisgwyl yn y sioe.
- Ni fydd goleuadau sydd yn fflachio yn cael eu defnyddio yn y sioe.
- Rydym yn osgoi duwch llwyr, a bydd llwybrau mewn ac allan o’r awditoriwm wedi eu goleuo trwy gydol y sioe.
- Mae’r defnydd o fwg yn cael ei fonitro yn agos ac yn cael ei gadw i leiafswm.
- Rydym yn croesawu arweinyddion grŵp neu unigolion i ddod i asesu ac ymgyfarwyddo gyda’r gofod cyn y perfformiadau.
- Rydym yn esbonio i staff blaen tŷ fod y perfformiadau yn hamddenol a bod y gynulleidfa yn cael mynd a dod o’r theatr fel y mynnir.
- Roedd ein dewis o leoliadau wedi eu selio ar ganolfannau oedd wedi derbyn hyfforddiant ffrindiau dementia wrth benderfynu lleoliadau’r daith.
Taith . Tour
Map o Leoliadau’r Daith
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
10.15am
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
1.30pm
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
11am
Theatr Mwldan, Cardigan, United Kingdom
10am
Theatr Felinfach, United Kingdom
10.15am
Theatr Felinfach, United Kingdom
1.30pm
Theatr Clwyd, Mold, United Kingdom
10.15am
Theatr Clwyd, Mold, United Kingdom
1.15pm
Theatr Clwyd, Mold, United Kingdom
4.30pm
Neuadd Dwyfor, Penlan Street, Pwllheli, United Kingdom
10am
Neuadd Dwyfor, Penlan Street, Pwllheli, United Kingdom
1.15pm
Gartholwg Lifelong Learning Centre, Church Village, United Kingdom
10.15am
Gartholwg Lifelong Learning Centre, Church Village, United Kingdom
1.30pm
Ffwrnes, Park Street, Llanelli, United Kingdom
10.15am
Ffwrnes, Park Street, Llanelli, United Kingdom
7pm
Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth, United Kingdom
1pm
Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth, United Kingdom
6pm
Criccieth Memorial Hall, High Street, Criccieth, UK
10am
Criccieth Memorial Hall, High Street, Criccieth, United Kingdom
1.30pm
Criccieth Memorial Hall, High Street, Criccieth, United Kingdom
6pm
Pavilion Theatre, Rhyl, United Kingdom
10.15am
Pavilion Theatre, Rhyl, United Kingdom
1.30pm
Pontio Arts and Innovation Centre, Deiniol Road, Bangor, United Kingdom
1.30pm
Pontio Arts and Innovation Centre, Deiniol Road, Bangor, United Kingdom
6.30pm
Chapter Arts Centre, Market Road, Cardiff, United Kingdom

12.45pm
Adolygiadau
Ewch da chi. Mi allai fod yn hir cyn y gwelwch chi ddim byd gwell.
Annwen Jones, Cylchgrawn Golwg
Dyma ddrama arbennig lle'r oedd y llon a'r lleddf fel pe baent yn canlyn ei gilydd law yn llaw fel dau gariad.
Cai Fôn Davies, Cylchgrawn Golwg
Cyflwynwyd profiad theatraidd gwirioneddol drawiadol mewn modd mwy dramataidd na’r un cynhyrchiad a welais i gan gwmni theatr yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf.
Anwen Jones, Cylchgrawn Barn
Rhaglun
Artistiaid
Cast: Gwenno Hodgkins + Iwan Garmon
Cyfarwyddo: Iola Ynyr
Awdur: Gwyneth Glyn
Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior
Cynllunydd Fideo: Eilir Pierce
Cerddoriaeth: Osian Gwynedd
Cynllunydd Goleuo: Joe Fletcher
Criw technegol: Caryl McQuilling, Dan Jones, Simon Thomas + Tom Ayres
Criw Egin (cynorthwyo): Nia Haf, Gwion Morris Jones + Ifan Pritchard
Partneriaid
Hoffai Frân Wen ddiolch i Academi Gofal Cymdeithasol Pendine am ei cefnogaeth.
Sefydlwyd yr academi yng nghanol y 1990au er mwyn darparu safon uchaf o ofal cymdeithasol trwy hyfforddiant staff.