TWRW DAN A DICW / Tachwedd 2018
Sioe theatr llawn chyfeillgarwch, chwarae a cherddoriaeth i blant dan 7 oed.

Dewch efo ni i gyfarfod Dan a Dicw y Gaeaf yma – dau berson o fydoedd hollol wahanol i’w gilydd.
Mae Dicw’n fachgen bach petrus. Yn ei fyd modern, technolegol, mae’n hawdd ymgolli a threulio oriau mewn gemau ac yn gwylio fideos. Dydy o ddim yn un i ddringo coed a chrwydro coedwigoedd ac ymgolli yn ei ddychymyg.
Rydym ni gyd yn ‘nabod plant fel Dicw. Ond pan mae’n cael ei ddanfon allan o’r tŷ un prynhawn, mae’n taro ar Dan – creadur od ar y naw sy’n byw yn wyllt, ac felly’n byw bywyd sy’n hollol wahanol i un Dicw.
Mae’n rhaid i’r ddau ddod o hyd i ffordd newydd o gyfathrebu – ond sut?
Mae Twrw Dan a Dicw gan Manon Steffan Ros yn dilyn stori dau berson wrth iddynt ddygymod gyda’r anghyfarwydd drwy chwarae a cherddoriaeth.
Sioe theatr Gymraeg i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 (oed 3 i 7).
Teithio ysgolion Gogledd Cymru rhwng 5ed o Dachwedd tan 14eg o Ragfyr 2018.
Adnoddau
- Cefnogi'r Cwricwlwm - Download
Rhaglun
Tîm Creadigol
Awdur: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Cast: Rhianna Loren a Owen Alun Williams
Cerddoriaeth: Robin Edwards
Dylunio: Heledd Rees
Gair gyda'r awdur
Mae pawb yn gallu bod yn ffrind.
Mae Twrw Dan a Dicw yn ymdrin â phroblemau plant yn y byd modern – caethiwed i sgriniau, unigedd, diffyg hyder a hynny mewn modd sensitif a chraff.
Yn y sioe, mae gan y ffrindiau newydd wersi i’w dysgu, ac mae dod o hyd i gyfaddawd yn helpu i ddod â’r ddau yn nes. Defnyddir cerddoriaeth a rhythmau fel ffordd o gyfathrebu, ac erbyn y diwedd, daw’n amlwg fod ‘na le am gyfeillgarwch o hyd, waeth pa mor wahanol ydy unigolion.
Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o gyfathrebu yn digwydd mewn modd sy’n defnyddio dim geiriau yn golygu ei fod yn agored i gynulleidfa eang, ac mae’r neges yn glir – mae pawb yn gallu bod yn ffrind.