THEATR UNNOS / Awst 2016
20 awr i greu darn o theatr gwreiddiol!

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016
Am 5:30pm ar y nos Iau (4 Awst 2016), bydd criw o artistiaid ifanc mwya’ blaenllaw Cymru yn dewis syniad* am ddarn o theatr newydd allan o het.
Bydd yr artistiaid yn gweithio drwy’r nos i greu’r darn newydd fydd yn cael ei lwyfannu yn Theatr y Maes am 12pm (5 Awst 2016).
Yr artistiaid fydd yn gyfrifol am Theatr Unnos yw Eddie Ladd, Iwan Fôn, Mirain Fflur, Gruff Ab Arwel, Nico Dafydd, Iola Ynyr ac Gwennan Mair Jones.
*Ewch draw i Gaffi’r Theatrau yn ystod yr wythnos i gyfrannu eich syniadau yn y blwch syniadau arbennig.