SBRI 3 / Rhag 2016
Sioe gerdd Nadolig i’r teulu oll

Hwre ma hi’n ‘Ddolig!
Esgus perffaith i fwyta gormod, gor-wario ar anrhegion a chael parti gora’r flwyddyn.
Does ond un problem – ma’r criw wedi’u diarddel o bob lleoliad gwerth chweil yn yr ardal.
Mae Rhys a Sophie yn ymuno i weddnewid yr unig westy sy’n fodlon iddynt gynnal eu parti yno ac mae’r ddau yn benderfynol y bydd hwn yn barti bythgofiadwy.
Ond rhwng y ffraeo, yr anobaith a’r diffyg brwdfrydedd mae’r trefnu yn profi’n fwrn a dweud y lleiaf. Mae’r ddau yn trio cadw trefn ar eu ffrindiau ac mae’r dywediad ‘gwaed yn dewach na dŵr’ yn troi’n wirionedd i’r ddau.
Mae amser yn brin a brwdfrydedd yn brinach ac amser a ddengys os bydd modd i’r ddau oresgyn y rhwystrau a dangos i bawb – ynghanol yr anobaith – bod hi’n bosib canfod SBRI!
Taith . Tour
Map o Leoliadau’r Daith
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
7pm
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
2.30pm
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
7pm
Adnoddau
- Rhaglen Swyddogol Sbri 3 - Download