SBECTOL / Gorff 2015


Artistiaid blaenllaw Sin Roc Gymraeg a theatr | Neuadd y Farchnad | Caernarfon | 26 o bobl ifanc | 6 artist | 1 gig

Prosiect Sbectol gan Brain yn defnyddio’r sîn roc Gymraeg i gyflwyno pobl ifanc i fyd theatr.

Yn dilyn 15 diwrnod dan glo yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, mae 30 o bobl ifanc a 8 artist enwog wedi creu digwyddiad gig theatrig unigryw ac arloesol.

Roedd y gig gwahanol (28/07/15) yn cynnwys Candelas, Mr Phormula a’r ‘grŵp’ newydd sbon Sbectol.

Sbectol oedd ffugenw cyfrinachol y perfformiad theatrig gan y bobl ifanc.

Dywedodd Gwennan Mair, cynllunydd y prosiect: “Dim twyllo pobl ifanc oedd bwriad heno – roedd y noson yn ceisio dangos i bobl ifanc fod theatr a pherfformiadau artistig yn gallu diddanu pawb. Does ddim angen i ni gyfyngu theatr i lwyfannau traddodiadol.

“Er yr anghyfarwydd â’r cyfarwydd, yr annisgwyl â’r disgwyl, roedd ymateb y gynulleidfa yn anhygoel!”

Gwerthodd tocynnau’r perfforiad i gyd mewn llai na pythefnos.