CARTREF NEWYDD I FRÂN WEN
Canolfan newydd am “roi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i’r celfyddydau creadigol i’w hysbrydoli i ffynnu a chyrraedd eu potensial.”

Cyhoeddi cynlluniau i greu hwb creadigol pwrpasol gwerth £3.2m i blant a phobl ifanc ym Mangor.
Wedi ei leoli yn Eglwys Santes Fair gynt, ar Ffordd Garth, bydd ein cartref newydd, a fydd yn cael ei enwi yn “Nyth”, yn cynnwys gofodau ar gyfer ymarferion, gweithdai a pherfformiadau ar raddfa fechan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau creadigol.
Rydym yn gobeithio rhoi bywyd newydd i adeilad sydd mor bwysig i’r dreftadaeth leol a’i atgyfodi yn gartref i’r cwmni ac yn ased cymunedol gan gyfrannu tuag at adfywiad a chynnig diwylliannol yr ardal.
Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd ein bwrdd annibynnol, ei fod am i’r celfyddydau i bobl ifanc fod yn “fwy hygyrch a pherthnasol” wrth iddo rannu cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd.
Disgwylir i’n cartref newydd fod yn hwb i artistiaid ifanc a newydd yng Ngogledd Cymru – cynlluniau sydd wedi eu datblygu gyda phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Orllewin Cymru.
Un o’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r broses yw Nia Hâf: “Mae’r broses yma wedi bod yn wirioneddol gydweithredol ac mae’r weledigaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ifanc – bydd yn rhoi lle diogel i ni ymgysylltu, creu, chwarae a phrofi popeth y gall theatr a’r celfyddydau creadigol eu cynnig.”
Yn dilyn pryniant y safle y cam nesaf yw gwahodd penseiri i ymateb i’r weledigaeth a datblygu cynlluniau i drawsnewid yr hen eglwys.
Mae’r cam datblygu wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.