MWGSI / Hydref 2017
Drama creulon o onest, llawn hiwmor tywyll am yr enwogrwydd a’r unigrwydd o fod yn berson ifanc sy’n byw gyda chancr.

Drama newydd gan Manon Steffan Ros.
“O’dd o’n mynd i fod yn epic. O’n i’n ferch 18 oed cyffredin. Stres Lefel A tu cefn i mi. O’n i’n barod am haf llawn rosé cyn cychwyn gradd nyrsio.
“Yna bang! Dim ‘duty free, pis-yp a lliw haul i fi. Blwyddyn mwya shit eto.”
Yn hytrach na haf llawn gwin, gwyliau a giamocs mae Mwgsi’n wynebu chemo, salwch a’r unigedd rhyfedd o fod yn ffigwr trasig.
Mae’r tensiwn rhwng Mwgsi ei ffrindiau, ei theulu a hi ei hun yn cynnig darn o theatr llawn hiwmor tywyll sy’n mynnu ein bod ni fel cynulleidfa, o bob oed, yn dod wyneb yn wyneb hefo’n dyfodol ansicr ni’n hunain.
ADNODDAU
CAST A CHRIW
Dramodydd: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Iola Ynyr
Cast: Mirain Fflur, Catrin Mara + Ceri Elen
Ymgynghorwyr cynnwys: Megan Davies + Gwenllian Ellis
Cynllunydd set a gwisgoedd: Angharad Gwyn
Cynllunydd goleuo: Ceri James
Cerddoriaeth: Rhodri Williams + Ifan Sion Davies
Cynllunydd taflunio: Jason Ley-Phillips
Taith . Tour
Map o Leoliadau’r Daith
Neuadd Dwyfor Pwllheli, Pwllheli, United Kingdom
1.30pm *Gwerthu Allan*
Neuadd Dwyfor Pwllheli, Pwllheli, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Station Road, Denbigh LL16 3DA, United Kingdom
10:45am *Gwerthu Allan*
Station Road, Denbigh LL16 3DA, United Kingdom
1:45pm *Gwerthu Allan*
Theatr Colwyn, Abergele Road, Colwyn Bay, United Kingdom
7.30pm
Neuadd Buddug, Pensarn Road, Bala, United Kingdom
7.30pm
Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, United Kingdom
7.30pm
Chapter Arts Centre, Market Road, Cardiff, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Chapter Arts Centre, Market Road, Cardiff, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Pontio Arts and Innovation Centre, Deiniol Road, Bangor, United Kingdom
1.30pm *Gwerthu Allan*
Ysgol Gyfun Llangefni, Cildwrn Road, Llangefni, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Neuadd Ogwen, Bethesda, United Kingdom
7.30pm
Galeri Caernarfon, Caernarfon, United Kingdom
6pm *Gwerthu Allan*
Theatr Clwyd, Raikes Lane, Mold, United Kingdom
7:45pm
Theatr Felinfach, United Kingdom
7.30pm
St. Peter's Civic Hall, King Street, Carmarthen, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Theatr Ffwrnes, Park Street, Llanelli, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Gartholwg Lifelong Learning Centre, Church Village, United Kingdom
1pm *Gwerthu Allan*
Gartholwg Lifelong Learning Centre, Church Village, United Kingdom
7.30pm *Gwerthu Allan*
Rhaglun
Cefndir
Mae’r ddrama Mwgsi wedi ei selio ar flog Megan Davies, oedd yn cofnodi ei phrofiad o ddygymod â thriniaeth cancr yn ddeunaw oed.
Gyda Megan bellach wedi goroesi’r driniaeth ac yn rhydd o gancr, daeth hi a’i ffrind – oedd yn cefnogi’r blog – ynghyd â Frân Wen a Manon Steffan Ros i addasu’r blog mewn i gynhyrchiad theatrig.
Darllenwch fwy am stori Megan www.mwgsi.com
Cefnogwyr
Hoffai Frân Wen ddiolch i’r noddwyr canlynol am eu cefnogaeth:
Y Lolfa yw un o brif gyhoeddwyr ac argraffwyr o Gymru.
Ers 1972, mae Harlech Foodservice yn parhau i fod yn gwmni annibynnol, teuluol sy’n darparu gwasanaeth o ansawdd a gofal cwsmeriaid gwych.