LLYFR GLAS NEBO / Chwefror 2020
Ffenomenon ôl-apocalyptaidd Manon Steffan Ros yn cael ei thrawsnewid i’r llwyfan.

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym.
Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi digwyddiad a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.
Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw.
Mae Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.
Mae’r gyfrol wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi yn 2018. Ychydig dros wythnos ar ôl iddo ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi, ac aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019.
UWCHDEITLAU SAESNEG
Mae nifer o berfformiadau Llyfr Glas Nebo yn cynnwys cyfieithiad ar y pryd i’r rheini sydd ddim yn siarad Cymraeg. Bydd yr uwchdeitlau yn ymddangos ar ochr chwith y llwyfan (wrth i chi wynebu’r llwyfan).
Bydd y perfformiadau uwchdeitlau yn Theatr y Sherman (10 Chwef, 7.30pm), Theatr Brycheiniog (13 Chwef, 7.30pm), Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (18 Chwef, 7.30pm), Stiwt (20 Chwef, 7.30pm) a Pontio (5 Mawrth, 1pm).
Mae’r tocynnau ar werth yn uniongyrchol gan y theatrau isod.
Taith . Tour
Map o Leoliadau’r Daith
31/01/2020 Galeri Caernarfon
7.30pm
01/02/2020 Galeri Caernarfon
6pm
03/02/2020 Galeri Caernarfon
1pm
03/02/2020 Galeri Caernarfon
7.30pm
04/02/2020 Galeri Caernarfon
1pm
06/02/2020 Neuadd Dwyfor PWLLHELI
1pm
06/02/2020 Neuadd Dwyfor PWLLHELI
7.30pm
07/02/2020 Neuadd Dwyfor PWLLHELI
1pm
7.30pm
11/02/2020 Theatr y Sherman CAERDYDD
1pm
11/02/2020 Theatr y Sherman CAERDYDD
7.30pm
13/02/2020 Theatr Brycheiniog ABERHONDDU
1pm
13/02/2020 Theatr Brycheiniog ABERHONDDU
7.30pm
17/02/2020 Canolfan Celfyddydau ABERYSTWYTH
7.30pm
18/02/2020 Canolfan Celfyddydau ABERYSTWYTH
7.30pm
20/02/2020 Stiwt Rhosllannerchrugog
7.30pm
22/02/2020 Gartholwg PONTYPRIDD
1pm
22/02/2020 Gartholwg PONTYPRIDD
7.30pm
25/02/2020 Y Lyric CAERFYRDDIN
10am
25/02/2020 Y Lyric CAERFYRDDIN
7.30pm
27/02/2020 Canolfan Celfyddydau PONTARDAWE
10am
27/02/2020 Canolfan Celfyddydau PONTARDAWE
7.30pm
02/03/2020 Theatr Felinfach DYFFRYN AERON
1pm
02/03/2020 Theatr Felinfach DYFFRYN AERON
7.30pm
05/03/2020 Pontio BANGOR
1pm
05/03/2020 Pontio BANGOR
7.30pm
06/03/2020 Pontio BANGOR
1pm
06/03/2020 Pontio BANGOR
7.30pm
Adolygiadau
Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded. Fedrwn i ddim rhoi’r gorau i ddarllen y nofel hon ac es i drwyddi ar un eisteddiad. A doeddwn i ddim isio iddi orffen.
Sonia Edwards, Beirniad y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Llyfr bach sydd wedi cael dylanwad enfawr yn barod. Mae stori’r teulu bach yn ddoniol ac yn ddwys – yn syml ond yn syfrdanol. Ac yn boenus o bwerus ar adegau.
Dylan Ebenezer, beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2019.
Cast + Tîm Artistig
Actorion: Tara Bethan, Eben James, Llŷr Edwards, Leah Gaffey a Cêt Haf.
Dramodydd: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Coreograffydd: Matt Gough
Cerddoriaeth: R. Seiliog
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Cynllunydd film: Edie Morris
Cynllunydd goleuo: Ceri James
Dramaturg: Gethin Evans
Cynllunydd Pypedwaith: Olivia Racionzer