GOFOD / Gorff 2018
Digwyddiad theatr pop-yp ym Mhenygroes

POP-YP THEATR BYW + STONDINAU + ARTISTIAID LLEOL
Dewch draw i ystâd ddiwydiannol Penygroes am noson anghonfensiynol o annisgwyl.
Perfformiad pop-yp byw yw Gofod gan artistiaid ifanc rhwng 14 a 25 oed, gyda chymorth artistiaid proffesiynol fel Nia Hâf, yr actor Iwan Fôn, y coreograffydd Cêt Haf a’r cynllunydd set Heledd Rees.
Diolch i gefnogaeth gan Grŵp Cynefin mae’r digwyddiad yma yn gweithredu polisi Talwch Be Fedrwch, felly trowch fyny ar y noson a thalwch be fedrwch.
Map o Leoliadau’r Daith
Penygroes Industrial Estate, Penygroes, Caernarfon, UK
7pm
Cefndir
Mae grŵp o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed – ar y cyd ag artistiaid proffesiynol Frân Wen – wedi dyfeisio, cynllunio a chreu theatr byw drawiadol o anghonfensiynol mewn lleoliad yr un mor anghyffredin.
Mae’r perfformiad yn seiliedig ar faterion mae’r bobl ifanc yn teimlo’n angerddol dros.
Nhw sy’n penderfynu. Nhw sy’n creu. Nhw sy’n perfformio. Chi fydd yn dyst.