Fi Di Fi
Annog pobl ifanc i ddefnyddio y celfyddydau fel cyfrwng mynegiant.

Prosiect iechyd a lles celfyddydol.
Defnyddio’r celfyddydau i annog pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd lles yw thema Fi Di Fi, rhaglen sy’n cael ei redeg gan Frân Wen.
Mae’r prosiect yn cyflwyno artistiaid i mewn i ysgolion er mwyn cynnal gweithdai rhyngweithiol sy’n mynd i’r afael ar faterion fel hyder, lles ac iechyd.
“Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd meddwl felly rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol megis dawns, cerddoriaeth ac actio i helpu cyflwyno’r neges,” meddai Mari Morgan o Frân Wen.
“Rydym yn cyd-weithio’n agos gyda ysgolion a disgyblion er mwyn eu hannog i siarad am eu teimladau eu hunain ac i empatheiddio ag eraill.”
Ychwanegodd Mari: “Rydym yn awyddus i gael y neges allan yno. Mae cymaint o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma, gyda chyfryngau cymdeithasol ac arholiadau. Mae ymarfer y meddwl yr un mor bwysig ag ymarfer y corff.”
NOD AC AMCANION
• Gwella dealltwriaeth o hunan lês
• Annog empathi ymysg cymrheiriaid
• Datblygu sgiliau mewn amryw o feysydd celfyddydol
• Adnabod y celfyddydau fel cyfrwng mynegiant
• Mwynhau, adnabod a dathlu llwyddiant
Adnoddau
- Pecyn creadigol Fi Di Fi - Download
Archif Fidio
2020
CHWEFROR
Ail-gartrefu yng Ngwynedd
2019
EBRILL
Ysgol Bro Lleu, Penygroes
Ysgol Glancegin, Bangor
2018
RHAGFYR
Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn
TACHWEDD
Ysgol David Hughes, Ynys Môn
CHWEFROR / MAWRTH
Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Brynrefail, Ysgol Bod Alaw, Ysgol Awel y Mynydd
2016
RHAGFYR
Ysgol Gymuned y Fali, Ynys Môn
TACHWEDD
Ysgol Glan y Mor, Pwllheli
EBRILL
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
2015
MAI
Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog