FAUST
Cynhyrchiad rhyngweithiol wedi ei ysbrydoli gan y chwedl glasurol Almaeneg.

Cynhyrchiad theatr rhyngweithiol wedi ei ysbrydoli gan y chwedl glasurol Almaeneg am ddyn sy’n gwerthu ei enaid i’r diafol.
Mae’r cynhyrchiad yn dod â chymuned o gyfranogwyr ifanc ac actorion proffesiynol at ei gilydd i archwilio’r angen dynol am fwy, yr ysfa am bŵer a phrofiadau sydd yn gwthio ffiniau i’r eithafion.
Fel aelodau’r gynulleidfa byddwch yn cael eich rhyddhau a’ch cymell i brofi teimladau hollol unigryw. Cewch eich arwain i fyd hudolus ond tywyllodrus Faust lle bydd trywydd y stori yn eich dwylo chi. Beth fyddwch chi’n barod i’w aberthu ac i brofi o’r newydd? Pa mor bell wnewch chi fentro y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd a chyfforddus?
Gan ddefnyddio addasiad T Gwynn Jones fel ysbrydoliaeth, dyma gynhyrchiad sy’n cofleidio cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol er mwyn cynnig profiad theatrig hollol newydd, arbrofol ac annisgwyl i’r gynulleidfa.
Mwy o wybodaeth ynglyn â recriwtio a chastio i’w gyhoeddi’n fuan.
TÎM
Tîm creadigol
Cyfarwyddwr Creadigol: Nia Lynn
Cyd-gyfarwyddwr: Gethin Evans
Ar y cŷd gyda Chwmni Ifanc Frân Wen
Partneriaid
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio.
DYDDIAD
Gwanwyn 2021