DYSGU CREADIGOL
Hybu ffyrdd newydd a chreadigol o ddysgu

CEFNOGI YSGOLION
Sut mae Frân Wen yn gallu cefnogi dysgu creadigol i ysgolion:
Perfformiadau
- Rhaglen gynhwysfawr o gynyrchiadau proffesiynol mewn theatrau, ar leoliad ac mewn ysgolion wedi eu creu a’u cynllunio i gyd-fynd ag oedrannau cyfnodau allweddol penodol.
- Cefnogaeth professiynol i lwyfannu cynhyrchiad yr ysgol (technegol, cyfarwyddo, marchnata).
Gweithdai
- Gweithdai sy’n archwilio themâu ac elfennau artistig cynhyrchiadau proffesiynol y cwmni.
- Gweithdai wedi eu teilwra’n arbennig i gyd-fynd ag anghenion penodol ysgol.
- Gweithdai cyffredinol yn y meysydd canlynol:
– Creu a Dyfeisio (sgriptio, cyd-ddyfeisio)
– Perfformio (sgiliau perfformio)
– Dylunio (set, gwisgoedd, propiau)
– Technegol (sain, goleuo, taflunio)
Hyfforddiant
- Hyfforddiant dysgu creadigol sy’n cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a chymorthyddion.
Adnoddau
- Adnoddau cyffredinol sy’n cefnogi’r cwricwlwm.
- Adnoddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchiad penodol.
Rhywbeth parhaus i bawb
Yn fewnol rydym yn cydnabod bod dysgu yn rhywbeth parhaus i bawb ac rydym am i’n rhaglen artistig atgyfnerthu hyn drwy gynnig profiadau ysbrydoledig sy’n cyfoethogi’r ffordd yr ydym yn gweld y byd.
Cyfeiriwn at ein cynulleidfaoedd, cyfranogwy, artistiaid a staff fel rhandeiliaid.
Ein hamcanion strategol:
- Mwyafu potensial dysg ein rhaglen artistig.
- Cydnabod y cyfleon a ddaw drwy’r Cynllun Dysgu Creadigol.
- Datbygu a threialu cynlluniau addysgu creadigol radical.
- Gweithredu cynlluniau hyfforddi a datblygu.
Isod ceir engreifftiau o adnoddau creadigol Frân Wen:
Adnoddau
- Pecyn Adnoddau Creadigol Llyfr Glas Nebo - Download
- Pecyn Adnoddau Creadigol Anweledig - Download
- Pecyn Adnoddau Creadigol Twrw Dan a Dicw - Download
- Pecyn Adnoddau Ŵy Chips a Nain - Download
- Pecyn Adnoddau Mwgsi - Download
- Pecyn Adnoddau Sigl Di Gwt - Download
- Pecyn Adnoddau Dilyn Fi - Download
- Pecyn Adnoddau Fi Di Di - Download
- Pecyn Adnoddau Cwpwrdd Dillad - Download
- Pecyn Adnoddau Creadigol Shabwm - Download