DRYCH / Hyd 2015
Cwmni’r Frân Wen yn cyflwyno drama Gymraeg rymus newydd gyda Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins.

Wyt ti erioed wedi teimlo ar goll?
Fel bod bywyd ar loop?
Yn ailadrodd ei hun yn dragywydd?
Wyt ti erioed wedi gofyn wrtho ti dy hun pwy wyt ti go iawn?
Dyma ddrama gan y dramodydd ifanc Llyr Titus am ddau unigolyn sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd. O’r cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn i eiliadau o chwerthin a hiwmor – drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.
Anaddas i rai o dan 14 oed.
Adolygiadau
Yn wirioneddol wych. Dwi isio gweld hwn eto.
Y Cast
-
Bryn Fôn
Mae Bryn Fon yn un o actorion mwyaf adnabyddus Cymru. Enillodd ei gerdyn ecwiti hollbwysig pan gymerodd ran yn yr opera roc Dic Penderyn yn 1977.
Cafodd gychwyn disglair i’w yrfa ar y sgrîn fawr pan chwaraeodd gymeriad a wnaeth i Katherine Hepburn grïo yn y ffilm The Corn is Green, a gafodd ei ffilmio ym Metws-y-coed ac Ysbyty Ifan. Aeth mlaen i actio yn y ffilm gyntaf ar S4C, Y Gosb.
Yn ogystal a hynny, mae’r anfarwol Tecwyn Parry yn C’mon Midffild a Les yn y gyfres Talcen Caled ymysg ei berfformiadau mwyaf adnabyddus ar deledu.
-
Gwenno Hodgkins
Yn un o’r actorion mwya’ adnabyddus ac uchel ei pharch yng Nghymru, mae Gwenno wedi serennu mewn nifer o gynyrchiadau ar lwyfan ac ar sgrin.
Mae hi yn cael ei adnabod yn bennaf am ei gwaith ar C’mon Midffîld!, Gwlad yr Astra Gwyn a Sombreros, yn ogystal a’r ffilmiau Aderyn Papur… and Pigs Might Fly (1984), Re-inventing Eddie (2002) ac Oed Yr Addewid (2002).
Adnoddau
- Pecyn Creadigol Drych - Download
Tîm Artistig
Sgript: Llyr Titus
Cyfarwyddwr: Ffion Haf
Artist Cyswllt: Aled Jones Williams
Dylunydd set a gwisgoedd: Gwyn Eiddior
Dylunydd goleuadau: Elanor Higgins
Cyfansoddwr: Osian Gwynedd
Ffilm: Mathew Owen
Cydlynydd ymladd: Kaitlin Howard
Sgript a Pecyn Addysg
PRYNU RHAGLEN A SGRIPT DRYCH
COST: £7 copi caled (gan cynnwys postio)
Mae copi caled o sgript Drych – sy’n cael ei chynnwys mewn rhaglen swmpus 48 tudalen gyda chyfweliadau’r tîm artistig ac actorion – ar gael yw brynu am £6 + £1 postio drwy ddefnyddio PayPal:
PECYN ADDYSG
Mae Frân Wen wedi datblygu rhaglen hyfforddi greadigol sy’n cyd-fynd a chyfoethogi rhaglen artistig y cwmni. Mae’r gweithdai a gynigir i gyd-fynd â’r cynhyrchiad Drych wedi eu cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol. Maent yn ogystal yn rhoi mewnwelediad i’r broses o greu ac yn ehangu dealltwriaeth o theatr fel cyfrwng.
Lawrlwytho > Pecyn Addysg Drych PDF