DILYN FI / Tach 2016
Stori chwerthinllyd o felys am fod yn chwaer hŷn am y tro cyntaf.

Mae Nansi yn chwaer fawr am y tro cyntaf.
I ymdopi mae Nansi yn dianc mewn i fyd dychmygol ei hun.
Sut mae Cai, ei ffrind gorau un, yn helpu hi i wynebu realiti’r sefyllfa?
Antur dau ffrind llawn chwarae a chwilota ac eliffantod!
Sioe i blant dan 7 oed i helpu datblygu dychymyg, sgiliau cyfathrebu a hyder plant bach.
*Mae’r sioe ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gweler manylion ar y rhestr daith isod.*
Adolygiadau
Stori swynol gan gwmni o Gymru am genfigen sy'n cael ei ddatrys drwy gyfeillgarwch."
Mae posibl i bawb elwa o'r cynhyrchiad hwn. Yn wir, dyma pam mae'r sioe syml yma, sydd mewn peryg o fod yn 'hyfryd' o syml, yn haeddu pedair seren.
The List
Dyma gydweithrediad wych rhwng Cwmni Frân Wen a’r awdur Sarah Argent, dan gyfarwyddyd hynod deimlawy Iola Ynyr.
Bydd cynulleidfaoedd rhyngwladol Gŵyl Caeredin ar eu hennil wrth brofi’r fersiwn Saesneg, Follow Me, ym mis Awst. Ond dychwelyd i Gymru wna Dilyn Fi yn yr hydref, felly da chi, profwch drysor dros eich hun.
Lowri Cooke
A ridiculously sweet tale about what it means to become an older sister for the first time.
Fest Magazine