CYFARWYDDWR. COREOGRAFFYDD. CERDDOR. / Rhagfyr 2019
Rhaglen datblygu artistiaid i ferched ifanc.

1 x Cyfarwyddwr.
1 x Coreograffydd.
1 x Cerddor.
DATBLYGU
‘Da ni’n chwilio am 3 merch rhwng 18 a 25 oed i gynorthwyo Elgan Rhys (cyfarwyddo), Matt Gough (coreograffi) a R.Seiliog (cyfansoddi) ar ein addasiad llwyfan o Llyfr Glas Nebo.
CREU
Yn dilyn cyfnod ymarfer Llyfr Glas Nebo bydd y tair yn dod at ei gilydd gyda dramodydd i ddatblygu syniad gwreiddiol mewn wythnos ddatblygu.
RHANNU
Llwyfan i rannu’r darn o waith gyda’r potensial i ddatblygu ymhellach.
Mae hwn yn gynllun datblygu gyda thâl – wedi’i dalu ar ffurf bwrsariaeth o £250 yr wythnos.
DISGWYLIADAU
Bydd disgwyl i chi:
- Bod yn bresennol mewn ymarferion a chyfarfodydd Llyfr Glas Nebo, i’w trefnu gyda’r tîm creadigol.
- Cysgodi a chynorthwyo yn ystod ymarferion yn ôl gofynion y tîm creadigol.
- Cymryd cyfrifoldeb o’ch rôl o fewn y tîm.
- Bod â meddwl agored i ddatblygu eich crefft wrth gydweithio â gweddill y tîm yn ystod yr wythnos datblygu.
CAST + TÎM ARTISTIG LLYFR GLAS NEBO
Actorion: Tara Bethan, Eben James, Llŷr Edwards, Leah Gaffey a Cêt Haf.
Awdur: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Coreograffydd: Matt Gough
Cerddoriaeth: R. Seiliog
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Cynllunydd film: Edie Morris
Cynllunydd goleuo: Ceri James
Dramaturg: Gethin Evans
SUT I YMGEISIO?
Drwy ‘sgwennu, fideo neu mewn unrhyw gyfrwng arall, dywedwch wrthym:
- PAM hoffech chi fod yn rhan o’r cynllun?
- Pa BROFIAD fyddwch chi’n dod i’r ‘stafell?
- Beth sy’n eich YSBRYDOLI?
- Canolwr (rhif ffôn, e-bost + eich perthynas chi â’r canolwr. Ni fyddwn yn cysylltu â’r canolwr oni bai eich bod yn llwyddiannus.)
Anfonwch eich ceisiadau at: mari@franwen.com
Am sgwrs pellach cysylltwch â Mari Morgan ar 01248 715 048.
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad cau: 22 Tachwedd
Cyfweliadau: 10 Rhagfyr
Angen bod ar gael:
Cyfarwyddwr: 6 – 31 Ionawr (4 wythnos)
Coreograffydd: 6 – 31 Ionawr (4 wythnos)
Cerddor: 20 – 31 Ionawr (2 wythnos)
Pawb (Wythnos ddatblygu): 10 – 14 Chwefror.