BRANWEN
Sioe gerdd gyfoes, ffyrnig a ffrwydrol.

Un o’n hoff chwedlau wedi ei hail-ddehongli ar gyfer y chwalfa o fyd sydd ohoni heddiw. Sioe gerdd gyfoes, ffyrnig a ffrwydrol.
Wrth i’r ddeyrnas syrthio’n ddarnau a’r hen genhedlaeth ballu, a phopeth oedd unwaith mor gadarn ddiflannu, mae dwy chwaer ifanc yn gweld eu cyfle.
Os gallant orchfygu’r storm gallant gipio grym, newid y byd; a chael gafael ar yr hyn sydd wedi ei wadu iddynt gyhyd .. eu llais.
Ond beth fydd yr aberth?
Stori anarchaidd am gariad, pŵer, teyrngarwch a’r pethau bach a ddywedwn wrth ein hunain i wneud i ni gredu ein bod mewn rheolaeth.
TÎM
Tîm creadigol
Cerddoriaeth, lyrics a deunydd ychwanegol: Seiriol Davies
Sgript: Elgan Rhys a Hanna Jarman
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Partneriaid
Mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.