AMRANT


Prosiect perfformio stryd arloesol i ymwelwyr Gwynedd

Mae’r prosiect hwn yn ceisio treialu dull newydd a fydd yn cyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr i Wynedd a Môn drwy berfformiadau artistig.

Cyflawnir hyn drwy weithio gyda 10 o bobl ifanc o’r sector celfyddydau a pherfformio i sefydlu cwmni theatr arddull “pop-up” a fydd yn darparu ystod o berfformiadau dros fisoedd yr haf.

Enw’r cwmni yma?

Amrant.

Y nod fydd “chwalu’r dirgelwch” sy’n bodoli o amgylch yr iaith a’r diwylliant a’u cyflwyno fel adnoddau unigryw y gellir eu cyflwyno ynghyd ag asedau eraill y rhanbarth e.e. chwedlau, tirwedd, bwyd a’r amgylchedd.

Bydd Frân Wen a Arloesi Gwynedd a Môn (Menter Môn) yn mentora’r pobl ifanc dros 10 wythnos yr haf.