7AITH / Awst 2016
Prosiect perfformio stryd arloesol i ymwelwyr Gwynedd

Mae Frân Wen yn arwain ar brosiect newydd i dreialu dull newydd a fydd yn cyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr i Wynedd drwy berfformiadau artistig.
Drwy cynllun Byw a Bod gan Arloesi Gwynedd Wledig, mae tîm 7aith yn sefydlu cwmni theatr “pop-up” a fydd yn perfformio ar draws Gwynedd dros fisoedd yr haf.
Tîm 7aith yw Steffan Chambers, Sioned Young, Owen Puw Williams, Elen Fôn, Gwenllian Jones-Griffith, Sara Anest ac Erin Ynyr.
Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr yng Ngwynedd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi. Fodd bynnag, anaml iawn y rhoddir llwyfan i iaith a diwylliant y rhanbarth o fewn y diwydiant, oherwydd efallai nad yw’r rhain yn cael eu hystyried o werth economaidd gwirioneddol. Mae hyn yn cyfateb i’r her a nodwyd yn Strategaeth Datblygu Leol Gwynedd, sef nodi ffyrdd o ychwanegu gwerth at iaith a diwylliant.
Dilynwch 7aith ar Twitter, Facebook, Snapchat (fw_7aith) a Instagram.