120960
Cynhyrchiad theatr gan Gwmni Ifanc Frân Wen.

**YN FYW, 7pm NOS WENER 19 MEHEFIN**
Bydd y perfformiad yn fyw ar y fideo isod am 7pm:
Ar y 31 o Ragfyr 2019, cadarnhawyd achos cyntaf Coronavirus yn Wuhan, China … 120960 munud yn ddiweddarach ac mae’r byd yn byw mewn ‘lockdown’.
Lle byddwn ni mewn 120960 munud arall?
Be sy’n mynd i ddigwydd dros y misoedd nesa?
Dim trefn! Sdyc yn tŷ trwy’r dydd, pob dydd.
Mewn 120960 munud arall bydd Cwmni Ifanc Frân Wen yn rhannu cynhyrchiad newydd sbon fydd yn mynd i’r afael ar y byd newydd yma. Ar blatfform i’w gadarnhau, bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu ar-lein.
Dros y 120960 munud yma, bydd y Cwmni Ifanc a thîm o artistiaid proffesiynol yn archwilio’r byd newydd a dathlu dynoliaeth trwy weithdai digidol, rhyngweithiol. Byddwn yn rhannu pytiau ar hyd y ffordd, ond fel arall fe welwn ni chi mewn 120960 munud.
Adolygiadau
Mewn byd ble mae pobl yn sydyn iawn i basio barn ar ein cenhedlaeth ni – mae’n amser i chi glywed ein hochr ni o’r ddadl.
Mae 120960 yn fewnwelediad gonest i brofiadau pobl ifanc Cymru yn ystod yr argyfwng Covid-19 – ar lefel bersonol ac fel cenhedlaeth. Rydym eisiau dangos yr ochrau digri a gwirion o’r cyfnod yma – golygfeydd y bydd pawb yn gyfarwydd â nhw.
Owain Sion, 15 o Lanfairpwll
Galeri
Cwmni Ifanc
Pwy neu beth yw’r Cwmni Ifanc
Mae’r Cwmni Ifanc yn creu theatr amlddisgyblaethol uchelgeisiol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.
Yn ôl Gethin Evans (ein Cyfarwyddwr Artistig), mae o’n “blatfform i gysylltu a mynegi ac yn sylfaen ar gyfer ein holl waith yn Frân Wen. Dwi wedi fy ysbrydoli’n llwyr gan eu hangerdd a’u hymrwymiad wrth iddynt ddefnyddio gofod ac amser i ailddiffinio theatr a chyfathrebu â’r byd. Mae’r cwmni (a’r gwaith) yn onest, yn gymhleth, yn annisgwyl, yn dosturiol ac yn lliwgar.”
Artistiaid
Bydd y cast o 35 yn gweithio gyda’r actor a’r awdur Hanna Jarman, y cyfarwyddwr fideo Nico Dafydd a Gethin a Mari o Frân Wen i greu 120960.
Llun: Annie Spratt