Tasa Ti'n sefyll yn Fama..

Cyfres o wyth drama fer arbrofol, gonest a gafaelgar yn seiliedig ar brofiadau bywyd pobl ifanc - wedi eu 'sgwennu a'u perfformio gan bobl ifanc...
Stiwdio Ddrama Coleg Menai, Ffordd Ffriddoedd, Bangor
15 . 16 Chwefror 2012
Cysylltwch â Chwmni'r Frân Wen am docynnau: 01248 715048 / post@franwen.com
"Tasa Ti'n Sefyll yn Fama" yw cynhyrchiad cyntaf y prosiect BRAIN Cymryd Rhan #1. Mae BRAIN yn brosiect cyfranogol cyffrous sy'n cael ei arwain gan Gwmni'r Frân Wen. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin sgiliau ym mhob agwedd o theatr gan gynnwys sgriptio, cynllunio, cyfarwyddo, perfformio a marchnata a chael eu mentora gan artistiaid proffesiynol yn y broses. Mae dros 50 o bobl ifanc o Wynedd, Ynys Môn a Chonwy wedi cyfranogi yn y prosiect hwn ers fis Medi 2011.
Sbri!
Heddiw mae Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi arlwy arbennig iawn o sioeau a chyngherddau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012. Bydd y gweithgareddau'n cychwyn gyda chynhyrchiad newydd sbon gan Gwmni'r Frân Wen wedi ei lwyfannu gan ieuenctid Eryri yn Galeri, Caernarfon (Gwener, 1af Mehefin - Llun, 4ydd Mehefin). Lleolir 'Sbri' mewn ysgol uwchradd lle mae criw o ddisgyblion yn gwirioni ar ganu a dawnsio a bydd y perfformiad yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg wedi eu haddasu mewn arddulliau cyfoes.
Beth Angell sy'n gyfrifol am y sgript gyda Iola Ynyr yn cyfarwyddo ac Owain Gethin Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd y sioe sydd eisoes wedi ei chyffelybu i'r fersiwn Gymraeg o'r sioe Americanaidd boblogaidd, Glee. Mae 130 o ieuenctid ardal Eryri yn rhan o'r sioe ac mae'r ymarferion eisoes ar droed.
Mae tocynnau o £12 ac ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu urdd.org/eisteddfod
