I ddod...
Rhith
Yn teithio Gogledd Orllewin Cymru rhwng Hydref a Rhagfyr 2011
Dyma gynhyrchiad sy'n ystyried sut mae ein dirnadaeth ni o sefyllfa yn gallu amrywiol yn ol diwylliant a hunaniaeth. Sut ydym ni'n ddiffinio y gwrthdaro rhwng yr hyn sy'n amlwg a'r dyfnder anweledig sy'n gymaint o ran ohonom i gyd? Bydd y perfformiad yn ystyried pa mor beryglus yw derbyn un dehongliad o sefyllfa pan gall y cwbl fod yn ddim ond rhith.
Cynhyrchiad arbrofol a chyffrous ar gyfer cynulleidfaoedd 14 oed +
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam, 2011
Bydd Cwmni'r Frân Wen yn cynnal nifer o berfformiadau a digwyddiadau at ddant plant a phobl ifanc o bob oed ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. Rhagor o wybodaeth i ddod yn fuan.
Swyn y Coed
Bydd cynhyrchiad diweddaraf Cwmni'r Frân Wen i'w gweld mewn coedwigoedd amrywiol yng Ngwynedd, Ynys Mon a Chonwy rhwng y 23 Mai a 22 Gorffennaf 2011. Mae wythnosau cyntaf y daith wedi eu neilltuo ar gyfer ysgolion gyda pherfformiadau arbennig i'r cyhoedd fel a ganlyn:
Coedydd Abergwyngregyn (Perfformiad Saesneg)
Dydd Sadwrn, 2 Gorffennaf 2011
10.30y.b. a 2.00y.p.
Malltraeth, Niwbwrch (Perfformiad Cymraeg)
Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011
10.30y.b. a 2.00y.p.
Parc Glynllifon (Perfformiad Cymraeg)
Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011
10.30y.b. a 2.00y.p.
Ewch i'r adran Be Sy Mlaen o'r wefan hon am rhagor o wybodaeth ynglyn â'r cynhyrchiad a chyfle i archebu tocynnau.