‘Martha Drafferthus’ gan Iola Ynyr
Prosiect Theatr mewn Addysg Cyfnod Sylfaen – Blwyddyn 1 a 2
Wedi i deulu Gwen gael cath fach newydd mae bywyd yn y cartref yn cael ei droi ben i waered. Mae gan bob aelod o’r teulu ddisgwyliadau o rôl Martha o fewn y cartref ond nid yw yn natur y gath fach i gydymffurfio â’r confensiynau hyn.
Mae Martha wedi ei chaethiwo yn ei gwewyr emosiynol ei hun wrth iddi hiraethu am ei mam. Yn raddol bach datgela’r gath ei gofidiau wrth Gwen sy’n fodd i leddfu ei phoen meddwl.
Gyda dyfodiad Martha, mae deinameg y teulu yn newid gan orfodi i bawb ail ystyried y modd y maent yn trin ei gilydd.
Trwy gymeriad chwareus a chwilfrydig Martha’r gath, caiff y disgyblion eu tywys trwy fyrdd o droeon trwstan, rhai yn ddoniol ynghyd â sefyllfaoedd sydd ag oblygiadau difrifol.
Dyma berfformiad fydd yn dathlu sut y gall cyfeillgarwch ffurfio a ffynnu mewn awyrgylch o barch at anghenion a theimladau eraill.
Comisiynir cerddoriaeth wreiddiol yn gefndir i’r perfformiad i annog y disgyblion i ddehongli nid yn unig y ddeialog ond hefyd iaith gorfforol y cymeriadau.
Bydd ‘marionette’ bychan yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli cymeriad Martha. Amcan hyn fydd ceisio cyfleu mewn modd gweledol sut y gall dylanwad unigolyn effeithio’n uniongyrchol ar ymateb a gweithredoedd eraill.
Bydd y prosiect yn cael ei sylfaenu ar egwyddorion Cwricwlwm ‘Ysgol Dina’, Carolyn Webbster-Stratton, gyda Rhiain Gwyn, Cydlynydd Prosiect ‘Incredible Years’ Webbster-Stratton, ( Cyngor Gwynedd ) yn ymgynghori yn ei ddatblygiad.
Eisoes mae aelodau o staff y Cwmni wedi bod yn arsyllu sesiynau o gyflwyno ‘Ysgol Dina’ i ddisgyblion blwyddyn 1. Mae’n fwriad gan y Cwmni barhau i wneud hynny ac ymgynghori yn glos ag athrawon ynglŷn â datblygiad y prosiect.
Drwy gyfrwng y perfformiad a’r gweithdy dilynol, bydd y disgyblion yn cael eu hannog i adnabod emosiynau ac i werthfawrogi safbwyntiau eraill. Byddwn yn adeiladu ar un o brif nodweddion cynllun Webbster-Stratton o arfogi’r disgyblion i ddatrys problemau emosiynol dyrys ac i ddeall oblygiadau eu penderfyniadau.
Bydd y prosiect yn cael ei gynnig i 35 o ddisgyblion ar y tro er mwyn caniatáu i’r plant fynegi eu teimladau mewn awyrgylch cadarnhaol a diogel.
.