|
Sioeau Cyfredol
Cwmni'r Frân Wen
| Nunlle i Droi / Nobody for Me ...
categori: Ysgolion Uwchradd[ Blwyddyn 8]
Crynodeb
Mae Cara a’i brawd, David, yn ddiarwybod i neb arall, yn gofalu am eu tad sy’n alcoholig. Eu gobaith yw ymddangos yn normal ond mae’r straen emosiynol a chorfforol yn treiddio i bob agwedd o’u bywyd.
Mae’r ddrama yn bwrw golwg caled a heriol ar realiti bywyd i ofalwyr ifanc. Yng ngeiriau un gofalwr ifanc:
“Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod sut ‘da ni’n teimlo a sut ‘da ni ‘di cael ein hanwybyddu.”
Bwriad y prosiect yw edrych ar anghenion pobl ifanc yn gyffredinol i ffynnu’n oedolion iach a chyfrifol.
Cast a chriw
Tudur Lloyd Evans, Rhodri Sion, Manon Wyn Williams
Teithio
13-10-2008 tan 05-12-2008 [manylion
y daith yma]
|
| Y Crwban Mwya'n y Byd / The World's Greatest Turtle...
categori: Comisiwn Arbennig[ Blynyddoedd 3 a 4]
Crynodeb
Prosiect mewn cydweithrediad â Chyfadran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth ynglyn ag Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau.
Mae creaduriaid y môr wedi gwirioni ac yn edrych ymlaen at eu parti blynyddol i groesawu'r Crwban Mwayf yn y Byd. Tydi'r Octopws ddim yn hapus ei byd wrth fwrw ati gyda'r trefniadau, gan nad ydi pawb yn tynnu eu pwysau. beth fydd hanes y parti mawr wedi siwrnai faith y Crwban i Gymru? Ond nid dyma'r gofid pennaf i'r creaduriaid, gan fod y bygythiad mwayf i'w ganfod y tu hwnt i'w byd o dan y don, a hynny yn sgîl patrymau byw pobl y tir mawr.
Cast a chriw
Owen Arwyn
Carys Gwilym
Nerys Lewis
Teithio
14-05-2007 tan 29-06-2007 [manylion
y daith yma]
|
|