Mae cefnogaeth gan unigolion, busnesau a sefydliadau amrywiol yn hanfodol i sicrhau datblygiad Cwmni'r Frân Wen ac yn ein galluogi i barhau i ddarparu theatr o'r safon uchaf i blant a phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.
Mae'r Cwmni yn aelod o Celfyddydau a Busnes Cymru ac wastad yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio gyda'r sector breifat. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chefnogi'r Cwmni ac i drafod pecynnau noddi posib cysylltwch â Nia Jones, Rheolwr Gweithredu: nia@franwen.com / 01248 715048.