Be sy' mlaen...
Swyn y Coed - Cynhyrchiad yng Nghoedwig Glynllifon
Dewch i danio'ch dychymyg ar daith theatrig hudolus yng Nghoedwig Glynllifon. Ydych chi'n barod i ymgolli yn rhyfeddodau'r goedwig? Dyma brofiad theatrig unigryw sydd wedi ei ysbrydoli gan chwedl Pwyll a Rhiannon.
Cynhyrchiad arbrofol mewn amgylchedd naturiol sy'n procio'r meddwl ac yn cyffroi'r synhwyrau. Addas ar gyfer teuluoedd a phlant 7 oed + . Bydd gweithdy creadigol yn seiliedig ar y perfformiad i ddilyn.
Dydd Llun,
4 Mehefin - Perfformiad bore / prynhawn 11.00yb a 3.00yp
Dydd Mawrth,
5 Mehefin - Perfformiad bore / prynhawn 11.yb a 3.00yp
Dydd Mercher, 6 Mehefin - Perfformiad bore / prynhawn 11.00yb a 3.00
TOCYNNAU - £5.00 i oedolion / £3.00 i blant, pensiynwyr a myfyrwyr /
£15.00 - Tocyn Teulu (2 oedolyn/ 3 plentyn)
Gellir archebu tocynnau ar gyfer y perfformiadau drwy gysylltu â'r cwmni ar
01248 715048 neu drwy e-bostio
post@franwen.com. Cyfyngir niferoedd y gynulleidfa felly archebwch eich tocynnau nawr!
Fala' Surion yn teithio Cymru yn Gwanwyn 2012.
Addasiad Catrin Dafydd a Manon Eames o 'Fresh Apples' gan Rachel Trezise
Cynhyrchiad llawn emosiwn, delweddau trawiadol a hiwmor tywyll am fywyd pobl ifanc yng Nghymru.
Ewch i'r wefan www.falasurion.com am ragor o wybodaeth.
Tasa Ti'n Sefyll yn Fama..
Cyfres o wyth drama fer arbrofol, gonest a gafaelgar yn seiliedig ar brofiadau bywyd pobl ifanc - wedi eu 'sgwennu a'u perfformio gan bobl ifanc..
Stwidio Ddrama, Coleg Menai, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.
Cysylltwch â Chwmni'r Frân Wen ar 01248 715048 / post@franwen.com am docynnau.
