log fran wen
Cwmni'r Frân Wen Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn
ffôn 01248 715048 | ffacs 01248 715225 | post@franwen.com

Archif Cwmni'r Frân Wen

Dyma archif o brosiectau a chynhyrchiadau Cwmni’r Frân Wen dros y blynyddoedd. Mae 22 o gynhyrchiadau / prosiectau yn ein harchif ar hyn o bryd. Cliciwch ar enw’r prosiect neu’r llun i ddarllen y manylion yn llawn..

 

Johnny Delaney Johnny Delaney [ 2007 ]
llinell oren
Saif stori Jonny fel atgof barhaus o'r ffordd y gall y rhagfarnau hiliol hynny sy'n dal i oroesi yn eid cymdeithas heddiw arwain at drais di feddwl a cholli bywyd yn ddi angen.
Y Crwban Mwya'n y Byd / The World's Greatest Turtle Y Crwban Mwya'n y Byd / The World's Greatest Turtle [ 2007 ]
llinell oren
Prosiect mewn cydweithrediad â Chyfadran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth ynglyn ag Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau. Mae creaduriaid y môr wedi gwirioni ac yn edrych ymlaen at eu parti blynyddol i groesawu'r Crwban Mwayf yn y Byd. Tydi'r Octopws ddim yn hapus ei byd wrth fwrw ati gyda'r trefniadau, gan nad ydi pawb yn tynnu eu pwysau. beth fydd hanes y parti mawr wedi siwrnai faith y Crwban i Gymru? Ond nid dyma'r gofid pennaf i'r creaduriaid, gan fod y bygythiad mwayf i'w ganfod y tu hwnt i'w byd o dan y don, a hynny yn sgîl patrymau byw pobl y tir mawr.
Ty'd Adra Ty'd Adra [ 2007 ]
llinell oren
Prosiect yn ymdrin ag effaith emosiynol chwalfa deuluol. Bydd Megan yn ail-fyw yr amrywiaeth o emosiynau caled y bu drwyddynt gan ystyried sut y llwyddodd i oroesi'r cyfnod poenus hwnnw yn ei bywyd. Y gobaith yw meithrin dealltwriaeth ac empathi ymysg cymhreiriaid gan ysgogi trafodaeth ynglyn â'r profiad. Mae'r cwmni yn cydweithio gydag asiantaethau allanol yr NSPCC a Childline er mwyn arfogi athrawon a disgyblion gyda chefnogaeth perthnasol wedi'r perfformiad.
Dwi isio dringo coeden! (2) Dwi isio dringo coeden! (2) [ 2006 ]
llinell oren
Mae mam Telor yn ofalus iawn ohono. Mae wrth ei bodd yn ei gadw'n lân a thaclus ac yn saff o flaen y teledu. Ond yng nghwmni Anti Lloyd, caiff fentro am y tro cyntaf i goedwig Pendraw'r Byd. Yno, caiff ei synhwyrau eu deffro wrth iddo ddod ar draws pob math o ryfeddodau byd natur.
Bitsh! Bitsh! [ 2006 ]
llinell oren
'Be sy'n bod Abi?' Mae Abi'n gwybod yn iawn fod yr ateb yn ei orffennol pan oedd yn hogyn ifanc, chwilfrydig yn y chwedegau. Dyna pryd y dechreuodd wirioni hefo merched ac hefo synau Elvis, Manfred Mann a'r Rolling Stones ar Radio Luxembourg. Ond dydi hi ddim yn talu i wirioni gormod... "Y Bitsh yna'i gyrrodd o dros y dibyn, yn union fel y mae hi'n dy yrru ditha!" Dyma ddrama afaelgar sy'n cyfuno hiwmor ffraeth gyda thristwch sefyllfa drasig Abi.
Weji Weji [ 2006 ]
llinell oren
Mae hi'n ddiwedd gwyliau'r Haf ac mae bywydau hogia'r pentref ar fin cael eu troi ben i waered. Mae Trev, Slej a Tirion wedi tyfu i fyny efo'i gilydd ac mae'r berthynas rhyngddynt wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd. Mae pob un yn deall y rheolau ac yn gwybod eu rôl yng nghyfansoddiad y gang. Ond mae rheolau'r Ysgol Fawr yn wahanol i reolau cae swings y pentra. Fydd pethau byth yr un fath.
Dwi isio dringo coeden! Dwi isio dringo coeden! [ 2006 ]
llinell oren
Mae mam Telor yn ofalus iawn ohono. Mae wrth ei bodd yn ei gadw'n lân a thaclus ac yn saff o flaen y teledu. Ond yng nghwmni Anti Lloyd, caiff fentro am y tro cyntaf i goedwig Pendraw'r Byd. Yno, caiff ei synhwyrau eu deffro wrth iddo ddod ar draws pob math o ryfeddodau byd natur.
Chwaraeon Buarth Chwaraeon Buarth [ 2006 ]
llinell oren
Prosiect yn dilyn gwaith ymchwil gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gefndir ieithyddol disgyblion ysgolion cynradd Bangor. Roedd y prosiect yn ymweld â chwech ysgol gynradd yn nalgylch Bangor gyda'r nod o ddysgu a chyd-chwarae amrywiaeth o emau buarth gyda'r disgyblion, a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
The Journey The Journey [ 2005 ]
llinell oren
Mae ffordd o fyw y Teithwyr dan fygythiad a thrwy lygaid bachgen 11 oed cawn gyfle i brofi'r problemau a'r rhwystrau real sy'n ei wynebu wrth geisio byw o ddydd i ddydd.
Anne Frank Anne Frank [ 2005 ]
llinell oren
Hanes merch ifanc yn llawn bywyd yn cael ei thrawsnewid yn ddim mwy na rhif. Un rhif ymysg y chwe miliwn o Iddewon a laddwyd gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Y Daith Y Daith [ 2005 ]
llinell oren
Mae ffordd o fyw y Teithwyr dan fygythiad a thrwy lygaid bachgen 11 oed cawn gyfle i brofi'r problemau a'r rhwystrau real sy'n ei wynebu wrth geisio byw o ddydd i ddydd.
MRCHDD@    /    GD GRL:-) MRCHDD@ / GD GRL:-) [ 2005 ]
llinell oren
Mae Eli yn 13 oed ac yn croesi'r trothwy o fod yn blentyn i fod yn ferch ifanc. Wedi iddi dderbyn laptop yn anrheg penblwydd gan ei rhieni mae'n datblygu perthynas gyda Sam ar y we. Dyma berthynas 'ddiogel'. Ond faint mewn gwirionedd mae Eli'n ei wybod am Sam?
Lleisiau yn y Parc 3 Lleisiau yn y Parc 3 [ 2004 ]
llinell oren
Addasiad Cymraeg a Saesneg o lyfr poblogaidd Anthony Browne, 'Voices in the Park'. Mae cyfarfyddiad annisgwyl yn newid golygon pedwar unigolyn o'u byd.
Stags and Hens Stags and Hens [ 2004 ]
llinell oren
Ydach chi'n cofio 1979? Ia, rhyw flwyddyn digon rhyfedd oedd hi yndê? Ond i Dave a Linda roedd hi'n flwyddyn bwysig - mi benderfynodd Linda setlo o'r diwedd!! Priodi cael fflat, teledu lliw a 'hoover'... Felly oedd hi i fod beth bynnag... Dewch 'laen - ymunwch â’r criw ar y noson 'stag' a 'hen' - does na'm dal beth ddigwyddith!!
Lleisiau yn y Parc 2 Lleisiau yn y Parc 2 [ 2003 ]
llinell oren
Addasiad Cymraeg o lyfr poblogaidd Anthony Browne, 'Voices in the Park'. Mae cyfarfyddiad annisgwyl yn newid golygon pedwar unigolyn o'u byd.
Watsia! [ 2002 ]
llinell oren
Comisiynwyd Cwmni'r Frân Wen gan Uned Diogelwch y Ffyrdd, Cyngor Gwynedd i gynhyrchu prosiect Theatr mewn Addysg ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 fyddai'n codi ymwybyddiaeth disgyblion o ddiogelwch ar y ffyrdd. Fel rhan o'r prosiect cyflwynir perfformiad o'r ddrama Watsia! ynghyd â gweithdy dilynol sy'n gyfle i ddisgyblion holi cymeriadau'r ddrama. Mae Betsan yn cael ei gwarchod yn ofalus gan ei theulu ond yn dyheu am yr un rhyddid â Ceri. Pan mae ei hoff degan yn cael ei gadw yn nhy Ceri, mae'n dewis wynebu peryglon y ffordd. Bwriad y prosiect yw cael y disgyblion, drwy brofiad y cymeriadau, i ystyried y sgiliau angenrheidiol i fod yn ddiogel ar y ffyrdd. Bydd y prosiect hefyd yn ymdrin â bwlio a perthynas plant ag oedolion. Cynigir y prosiect hwn trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
Claen Claen [ 2002 ]
llinell oren
Dewi i ymuno â hi mewn safle adeiladu tai gyda'r bwriad o ddewis un yn ffrind. Penderfyna'r ddau gytuno i'w cyfarfod oherwydd apêl ymddygiad mentrus Manon. Yn y pen draw dyhead y tri chymeriad yw'r angen i alw rhywun yn 'ffrind'. Gwelir faint mae'r tri yn fodlon mentro cyn i'r sefyllfa fynd yn rhy bell.
Chwarae Plant Chwarae Plant [ 2001 ]
llinell oren
Dydi Joe ddim yn dda. Caiff ei warchod gan ei Nain a'i Thaid yn lle mynd i'r ysgol. Mae Joe yn gwella drwyddo ond mae'n amlwg fod rhywbeth yn ei boeni. Drwy berthynas y Nain a'r Tiad down i ddysgu sut y gall camddealltwriaeth bychan droi'n fwgan mawr. Gwelir angen pob unigolyn i deimlo fod ganddo rôl i chwarae mewn bywyd. Bydd y prosiect hwn yn delio ag emosiynau cryf o genfigen ac ansicrwydd a hynny mewn modd sy'n llawn hiwmor.
Cae o Adar Duon (ail llwyfanu) Cae o Adar Duon (ail llwyfanu) [ 2001 ]
llinell oren
Lleolir y ddrama gomisiwn hon yn Kosovo yn ystod Gwanwyn a Haf 1999. Dilynwn ferch ifanc Albanaidd yn ffoi o'i chartref gyda'i thaid yn wyneb erledigaeth gan y Serbiaid. Tra'n ffoi, gwelir sut mae perthynas Arieta a'i thaid yn newid. Er gwaethaf erchyllterau eu sefyllfa, mae Arieta yn dal ei gafael ar ei gobeithion gan ymdrechu i ddygymod a'i hamgylchiadau. Wrth i sefyllfa Kosovo barhau yn ansefydlog, mae'r ddrama yn hynod amserol ac yn caniatau i'r gynulleidfa ddelio ag un o bynciau mwyaf llosg ein cyfnod. Bydd y perfformiad yn fodd o sbarduno'r disgyblion i ystyried a gwerthfawrogi anghenion ffoaduriaid.
Snog Sbar Snog Sbar [ 2000 ]
llinell oren
Mae Snog Spar yn dilyn perthynas tri ffrind yn eu harddegau yn mynd i wersylla am noson. Ond mae rhesymau pawb tros fynd yn wahanol. Trwy'r profiad, gwelwn sut mae eu perthynas yn newid wrth i wir deimladau'r cymeriadau amlygu. Bydd y perfformiad yn ymdrin a chyfeillgarwch, perthynas gariadus ynghyd a phwysau cyfoedion.
Cae o Adar Duon (1) Cae o Adar Duon (1) [ 2000 ]
llinell oren
Lleolir y ddrama gomisiwn hon yn Kosovo yn ystod Gwanwyn a Haf 1999. Dilynwn ferch ifanc Albanaidd yn ffoi o'i chartref gyda'i thaid yn wyneb erledigaeth gan y Serbiaid. Tra'n ffoi, gwelir sut mae perthynas Arieta a'i thaid yn newid. Er gwaethaf erchyllterau, mae Arieta yn dal ei gafael ar ei gobeithion gan ymdrechu i ddygymod a'i hamgylchiadau. Wrth i sefyllfa Kosovo barhau yn ansefydlog, mae'r ddrama yn hynod amserol ac yn caniatau i'r gynulleidfa ddelio ag un o bynciau mwyaf llosg ein cyfnod. Bydd y perfformiad yn fodd o sbarduno'r disgyblion i ystyried a gwerthfawrogi anghenion ffoaduriaid.
Lyfli Lyfli [ 1999 ]
llinell oren
Mae'r prosiect hwn yn edrych ar bedwar cymeriad yn eu harddegau sy'n wynebu newid yn dilyn cyfathrach rywiol. Nod y prosiect yw trafod perthynas rywiol o fewn cyd-destun emosiynol gan annog y disgyblion i ysytried oblygiadau sefydlu a chynnal perthynas. Cyflwynir perfformiad a gweithdy lle caiff disgyblion gwestiynnu a herio safbwyntiau cymeriadau'r ddrama. Mae'r prosiect a'r pecyn gwaith wedi ei greu mewn cydweithrediad glos a'r Adran Hybu Iechyd.